Mae grwpiau amgylcheddol lleol Pontypridd yn annog trefnwyr yr Eisteddfod i wneud yr amgylchedd a chynaladwyedd yn prioriti wrth drefnu Eisteddfod 2024, a chynhelir yn nhref Pontypridd mis Awst blwyddyn nesaf.
‘Rydym yn falch iawn ym Mhontypridd o Barc Ynysangharad ger lan yr afon Taf’ dywed trigolyn lleol Catrin Doyle. ‘Mae’n werthfawr iawn i ni ym Mhontypridd- gyda phobl yn eu defnyddio pob dydd a natur gwyllt yn ffynnu!’‘Mae yna sawl ddatblygiad cynaliadwy wedi bod yn ddiweddar sy’n gwneud imi deimlo taw Eisteddfod 2024 ym Mhontypridd bydd yr Eisteddfod fwyaf Werdd erioed!’
Fel rhan o grŵp amgylcheddol lleol Cyfeillion y Ddaear Pontypridd, mae Catrin yn ymgyrchu dros ddatblygiadau gwyrdd yn yr ardal i leihau allyriadau carbon, atal newid hinsawdd, ac annog bioamrywiaeth yn yr ardal. Ar-y-cyd gyda phobl ifanc ac ecolegwyr lleol mae Catrin wedi bod yn darganfod a recordio natur yr ardal, gan gynnwys dyfrgwn a glas-y-dorlan ar yr afon Taf. ‘Rwyf yn gwerthfawrogi’r ymdrech mae’r Eisteddfod wedi gwneud i greu maes di-blastig dros y blynyddoedd, ac mi wn bydd bywyd gwyllt yr ardal yn ei gwerthfawrogi hefyd!
‘O ran allyriadau carbon a newid hinsawdd, mae llwyth o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gyda’r trenau yn cael ei drydaneiddio, a bydd hyn yn rhoi cyfle i leihau allyriadau carbon y daith i’r maes. Efallai bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried noddi gostyngiad ar docyn i’r Maes i’r rhai sydd wedi teithio ar drafnidiaeth cyhoeddus, fel rhan o ymrwymo at dargedau cynaladwyedd a di-carboneiddio’r cenedl?’
Mae cynghorydd lleol y Blaid Werdd, Angela Karadog, yn cytuno bod yna lawer i ddathlu ym Mhontypridd, ond yn rhybuddio yn erbyn rhai o’r datblygiadau. ‘Mae’r afonydd a mynyddoedd yr ardal – a oedd unwaith yn ddu gyda’r diwydiant glo- yn nawr yn dadeni gyda choed, blodau gwyllt, peillwyr ac adar yn dychwelyd i Bontypridd.’
‘Mae angen sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau isadeiledd neu waith tir yn y parc yn natur-bositif ac yn helpu i ostwng effeithiau newid hinsawdd’ pwysleisia Ms Karadog, sydd yn erbyn unrhyw weithgaredd torri coed ym Mharc Ynysangharad, a chynllunnir gan y Cyngor RhCT er mwyn gwneud lle am ddigwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod. ‘Torcalonnus byddai pe bai digwyddiad anhygoel fel yr Eisteddfod, digwyddiad i hybu a diogelu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant am genedlaethau’r dyfodol, yn golygu torri coed sy’n dwyn gan ein treftadaeth naturiol ni.’
Ochr yn ochr â sawl trigolyn a grŵp amgylcheddol ym Mhontypridd, mae Angela a Catrin yn cymryd eu rôl o ddifrif wrth warchod natur a’r hinsawdd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. ‘Hoffem estyn croeso mawr i’r Eisteddfod ym Mhontypridd blwyddyn nesaf, ond rhaid rhoi’r blaned yn gyntaf.’